DYFODOL I’R IAITH

 

SYLWADAU AR :

 

YMGYNGHORIAD Y PWYLLGOR DIWYLLIANT, CYFATHREBU, Y GYMRAEG, CHWARAEON A CHYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL

 

Medi 2021

 

 

Cyswllt:

Ruth Richards

Prif Weithredwr

01288 811 798

ruth@dyfodol.net

 

 


 

 

Ymateb i’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol:

 

Ymgynghoriad 3 Medi 2021

 

 

Mae  Polisïau Dyfodol i’r Iaith yn glir yn “Troi Dyhead yn Realiti”  a gyhoeddwyd yn 2020.  Datblygwyd y syniadau yn y ddogfen hon ar sail egwyddorion cynllunio iaith a dderbynnir yn gyffredinol gan arbenigwyr rhyngwladol yn y maes, ac yng nghyd-destun bwriad Llywodraeth Cymru i adfer y Gymraeg yn iaith genedlaethol.

 

1.       Effaith Covid-19 ar hyn o bryd a sut i liniaru effaith y pandemig

 

Addysg

 

Mae tystiolaeth bod addysg Gymraeg wedi dioddef wrth i ddisgyblion gael eu colli yn sgil y cyfnodau hir o fod ysgolion ar gau.  Mae’r cyfnodau cau wedi amlygu:

i.                     Diffyg cefnogaeth i’r Gymraeg mewn cartrefi

ii.                   Diffyg cymunedau Cymraeg cefnogol i rai sy’n dysgu’r Gymraeg

iii.                 Yn sgil hyn anhawster i ddatblygu sgiliau iaith disgyblion

 

Bu ymdrechion sylweddol gan ysgolion a sefydliadau eraill, gan gynnwys Mentrau Iaith, i ddarparu deunydd Cymraeg ar-lein, ond mae’n annhebygol iawn bod yr ymdrechion hyn wedi gwneud iawn am fisoedd o fod y tu allan i’r system addysg Gymraeg.

 

Mae’n glir felly fod angen paratoadau addysgol helaeth i gefnogi disgyblion o gartrefi di-Cymraeg os daw cyfnod clo arall yn sgil y pandemig.

 

Un sgileffaith ddymunol yw bod rhaglenni hyfforddi athrawon yn denu nifer cynyddol o ddarpar athrawon, mae’n debygol am fod swyddi llai agored i gyfnodau clo ar gael yn y maes hwn.

 

Mae ein rhaglen ni’n pwysleisio’r angen am ddarparu rhaglen drylwyr o hyfforddiant iaith i athrawon a darpar athrawon, er mwyn sicrhau gweithlu addysg a all wasanaethu’r twf mewn ysgolion Cymraeg yn y dyfodol.  Daeth yr adeg yn awr i fanteisio ymhellach ar natur atyniadol swyddi addysg.  Byddai’n dda creu rhaglen gref o hyfforddiant iaith a rhoi pwerau i’r Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg i ddarparu hyn mewn cydweithrediad â sefydliadau addysg.

 

Bydd hyn yn golygu buddsoddiad cyllid, amser a phersonél sylweddol.  Dyma’r adeg i fwrw’r cwch hwn i’r dŵr.

 

Y gymuned Gymraeg

 

Dioddefodd y gymuned Gymraeg yn fwy na’r gymuned Saesneg yn ystod Covid-19 am fod y gymuned Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd llai Cymraeg, yn dibynnu ar fod gweithgareddau, digwyddiadau a chymdeithasau’n cael eu trefnu a’u cynnal.

 

Dioddefodd Cymdeithasau Cymraeg a chorau Cymraeg, yn ôl tystiolaeth arolwg y Llywodraeth, yn fwy na neb.

 

Gwelwyd dosbarthiadau Cymraeg yn dod i ben, ond diolch i’r Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg gwelwyd llwyddiant wrth drosglwyddo i ddosbarthiadau ar-lein.

 

Wedi dweud hyn, mae’n glir bod rhwydweithiau cymdeithasol Cymraeg wedi eu chwalu yn ystod y cyfnodau clo, a bydd angen rhoi cefnogaeth arbennig i’r rhain wrth gynllunio’r dyfodol.

 

Mae’r angen yn parhau am fannau lle mae’r gymuned Gymraeg yn gallu rhwydweithio. Arwydd da o gryfder yr awydd i sicrhau hyn yw penderfyniad sawl cymuned yn y de a’r gogledd i brynu tafarnau i wasanaethu cymunedau Cymraeg. 

 

Mae’r ymdrechion hyn, ar y cyfan, wedi llwyddo gyda chefnogaeth leol.  Daeth yn bryd i’r Llywodraeth fwrw iddi unwaith eto i gefnogi canolfannau o’r fath.  Pan fuddsoddodd y Llywodraeth arian mewn Canolfannau Cymraeg rai blynyddoedd yn ôl gwnaeth hyn, gyda chryn fesur o lwyddiant, ond heb lwyddiant parhaol bob tro, mewn cydweithrediad â chynghorau lleol a sefydliadau addysg.  Byddai’n dda adolygu hyn a sicrhau bod swm sylweddol o gyllid ar gael i’w fuddsoddi mewn Canolfannau Cymraeg (o sawl model) a’r cyllid i’w neilltuo i geisiadau lleol cryf, fel bod tebygolrwydd y ceir cefnogaeth leol barhaol i’r Canolfannau newydd.

 

Y sector tai

 

Mewn cynhadledd a drefnwyd gan Brifysgol Abertawe ar effeithiau Covid-19 tynnodd Dyfodol i’r Iaith sylw i’r newidiadau sydyn a ddigwyddodd i’r farchnad dai yng Nghymru, newidiadau sy’n tanseilio’r gymuned Gymraeg mewn sawl ardal.

 

Mae’r cynnydd mewn ail gartrefi, a mewnddyfodiaid yn prynu tai, yn peri anawsterau mawr i drigolion lleol gael tai yn eu hardaloedd.  Prysurwyd y duedd wrth i ragor o bobl allu gweithio o’r cartref, ac wrth iddi fynd yn llai hwylus perchenogi tai ar y cyfandir.

 

Mae Dyfodol i’r Iaith yn cefnogi awgrymiadau a gynigiwyd gan y Dr Simon Brooks:

 

-          Fesul ardal Cod Post, codi treth o 100% ar ail gartrefi a defnyddio’r incwm ar gyfer trigolion lleol;

-          Gosod lletyau gwyliau mewn categori cynllunio penodol . Byddai hyn yn agor y drws i gynghorau lleol weithredu o ran cyfyngu ar niferoedd a threthiant;

-          Datblygu cynllun Tai Marchnad Leol Gwynedd gan gynnig blaenoriaeth i bobl leol. Mae cynllun Cartrefi  Croeso Sir Gaerfyrddin yn swnio’n debyg, er nad oes fawr o ddatblygiad arno hyd yma.

 

Rydym yn cefnogi’r cais i’r Llywodraeth gymryd camau pendant i gwtogi ar nifer y tai haf a’r ail gartrefi.  Yr un pryd mae angen sicrhau bod cyflenwad digonol o dai ar gael ar gyfer bobl leol.  Gall hyn gynnwys codi tai cymdeithasol, ac ehangu’r rhaglen gyfalaf i gynorthwyo prynu tai.

 

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd yn annog y Llywodraeth i gynorthwyo awdurdodau lleol i gychwyn rhaglen o brynu eiddo i’w rhentu fel tai haf a chreu cyfalaf i godi a phrynu tai i’w rhentu i bobl leol.

 

Wedi dweud hyn, mae problem tai haf ac ail gartrefi’n digwydd i raddau am fod diffyg gwaith mewn ardaloedd Cymraeg a / neu fod yr ardaloedd yn llai atyniadol nag ardaloedd mwy trefol.  Er bod tuedd ledled Ewrop erbyn hyn i bobl drefol werthfawrogi bywyd gwledig, mae angen mawr creu economi ffyniannus mewn ardaloedd dwys eu Cymraeg. 

 

Oherwydd hyn mae Dyfodol i’r Iaith yn annog creu cynllun economaidd yn bywiogi ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, gan gynnwys canolfannau twf, asiantaeth busnes Cymraeg i weithredu ar draws Cymru, a datganoli sefydliadau cenedlaethol i ardaloedd mwy dwys eu Cymraeg.  Mae hyrwyddo polisi caffael lleol yn hanfodol hefyd.

 

 

Gweithleoedd

 

Wrth i ganran helaeth o weithlu’r sector cyhoeddus yng Nghymru allu gweithio o’r cartref, daeth yn fwy anodd creu amodau gweithio Cymraeg a dwyieithog.

 

Wrth ddod allan o’r pandemig, mae angen i gyrff cyhoeddus, a Chynghorau lleol yn arbennig, greu rhaglen greadigol i drosi eu mannau gwaith yn rhai sy’n cynnig cyfle i weithwyr weithio’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae hyn yn arbennig o wir yn y siroedd mwy dwys eu Cymraeg, gan gynnwys Môn, Ceredigion a Sir Gâr. Bydd darparu gweithleoedd Cymraeg yn cyfrannu’n helaeth at gynyddu rhwydweithio Cymraeg.

 

Bu gan rai gweithleoedd brosiectau penodol ar gyfer Cymreigio mannau gwaith a bu’n anodd parhau’r rhain yn ystod y cyfnod Covid-19.  Wrth ddod allan o’r cyfnod anodd byddai’n dda rhoi sylw eto i’r prosiectau hyn a chynllunio lle y gellir eu gweithredu’n ehangach.

 

2.       Blaenoriaethau rhaglen waith

 

Mae angen rhoi blaenoriaeth i’r meysydd a nodwyd gennym uchod.

 

·         Mae’n glir bod angen rhoi’r prif sylw i raglen drylwyr o gynyddu addysg Gymraeg a’r Gymraeg mewn addysg, gyda’r holl oblygiadau o ran staffio ac ehangu sgiliau iaith.

 

Mae angen cefnogi’r cynghorau sir sydd yn sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg a’r rhai sydd yn Cymreigio ysgolion cyfrwng Saesneg. Yn ogystal â Chymreigio rhannau o’r cwricwlwm bydd ymdaflu i’r cwricwlwm allgyrsiol Cymraeg megis gweithgareddau’r Urdd yn hanfodol bwysig.

 

·         Yna mae angen camau penodol i gryfhau cymunedau Cymraeg, yn ieithyddol ac yn economaidd, gyda phwyslais ar gynlluniau tai fydd yn hyrwyddo tai i bobl leol.

 

Rydym wedi gofyn am “raglen o Gymreigio cyson i ardaloedd lle mae 25% [neu fwy] o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg”. Bydd ardaloedd o’r fath yn cael eu diffinio fel rhai o “Arwyddocâd Ieithyddol Arbennig”  ac o wneud hynny bydd pwyslais ar weithredu y polisïau  eraill ym meysydd addysg, cynllunio defnydd tir,  gweithleoedd, y cyfryngau ac ati. Mae angen i Lywodraeth Cymru a’r Cynghorau Sir mewn ardaloedd sydd wedi eu nodi yn rhai o “Arwyddocâd  Ieithyddol Arbennig” roi blaenoriaeth i gwmnïau lleol wrth archebu nwyddau a chynllunio datblygiadau. Rhaid pwyso ar ganolfannau hamdden sydd dan reolaeth y cynghorau, a chlybiau chwaraeon yn yr ardaloedd hyn, i weithredu yn y Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o gofio’r dirywiad sylweddol yn siaradwyr y Gymraeg yn yr ystod oed 18-25 ac mae’n rhan o gyfrifoldeb y pwyllgor hwn bellach. Bydd angen yr un pwyslais ar fudiadau a chymdeithasau  gwirfoddol.

 

·         Mae Cymreigio gweithleoedd yn gam ymarferol y gellir ei gymryd mewn cyrff cyhoeddus yn y lle cyntaf, fel bod rhai sy’n gadael yr ysgol yn gallu parhau i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.

 

Yn ogystal â hyn maen angen mireinio llawer o’r hyn a wna’r Llywodraeth.

 

i.                     Ymwybyddiaeth iaith a dysgu hanes

 

Mae angen ail asesu’r Cwricwlwm newydd cyn iddo gael ei weithredu. Rhagrith yw dadl y Llywodraeth ei fod yn wrthwynebus i  ragnodi elfennau o’r cwricwlwm a rhoi rhyddid llawn i athrawon ddysgu yr hyn a fynnant o fewn canllawiau cyffredinol. Bydd yn orfodol dysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn ogystal â  chyfraniad pobl ddu ac o liw yng Nghymru.

 

Bu cymunedau Cymraeg yma ers y cyfnod ôl Rufeinig.  Mae’n hanfodol cynnwys hanes y Gymraeg gan gynnwys ystyr enwau llefydd.

 

Pam bryn, llan a rhyd ac nid hill, church a ford? Am mai  Cymraeg oedd yr unig iaith gan y Cymry i ddisgrifio’i  hamgylchedd. Yn ychwanegol at hyn, mae angen ail bwyso am gorff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru. Go brin fod neb yn gwybod yn well na’r diweddar John Davies.

 

Clywyd gennym dystiolaeth bod disgyblion sy’n dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion yn anymwybodol o’r rhesymau dros ddysgu’r Gymraeg, ac yn sgil hyn yn brin o gymhelliant a hyder, e.e.

“They tell us to speak the language but they don’t tell us why” oedd sylw siaradwr gwadd yn ein Cynhadledd Flynyddol yn Aberystwyth rai blynyddoedd yn ôl yn dilyn  ymchwil i agwedd disgyblion mewn ysgolion  at y Gymraeg. Mae codi ymwybyddiaeth o hanes ac arwyddocâd y Gymraeg yn hanfodol, ac nid ymhlith disgyblion yn unig.

 

Mae’r Llywodraeth yn derbyn argymhellion i ddysgu hanes y Dyn Du yng Nghymru yn rhan o’r cwricwlwm.  Ond nid yw’r Llywodraeth wedi derbyn bod angen dysgu hanes Cymru trwy’r canrifoedd yn y cwricwlwm.  Dadleuwyd bod angen dysgu hanes lleol, ac wrth gwrs, mae hynny’n ddigon da, ond heb gwricwlwm cenedlaethol ni fydd modd meithrin ymdeimlad cyffredin ledled y wlad o hanes Cymru, a lle’r Gymraeg yn ei hanes.

 

Yn ein barn ni mae hyn yn allweddol wrth ddysgu’r Gymraeg, mewn ysgolion Cymraeg ac mewn ysgolion Saesneg. Yn gysylltiedig â hyn mae angen rhaglen gyfoethog o ymwybyddiaeth iaith fel bod disgyblion pob ysgol yn gwybod am ein traddodiad a diwylliant unigryw. 

 

Bydd hyn yn rhoi ysgogiad, maes o law, i ymfalchïo yn y Gymraeg a’i defnyddio, gan ateb y ddadl iwtilitaraidd, “It’s only a means of communication...and we all speak English”.

 

Mae’n anodd meddwl am gyfiawnhad i fodolaeth Senedd genedlaethol heb fod yna elfennau hollol arbennig i’r genedl  hon. Fel arall, rhanbarth o’r wlad bwerus drws nesaf yw Cymru, fel Canolbarth neu De orllewin Lloegr. Un o’r ychydig bethau sydd yn unigryw i Gymru yw’r Gymraeg a’r hanes a diwylliant sydd wedi bod ynghlwm â hynny ers y cyfnod ôl Rufeinig. O golli’r Gymraeg ac heb ymwybyddiaeth o’n hanes arbennig, byddwn yn graddol ymdoddi  i fod yn rhanbarth o Loegr,  rhyw fath o Gernyw.

 

ii.                   Hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg

 

Sut felly, mae cryfhau agwedd  y garfan yma  a throi un diwrnod “Shw mae , Sut mae” ?  yn arfer cyson gan danlinellu i ddieithriaid mai Cymraeg yw’r iaith yr hoffent eu siarad?

 

Mae angen rhaglen greadigol fydd yn gwneud defnyddio’r Gymraeg yn boblogaidd.  Mae angen i hyn gynnwys mannau cyfarfod a mannau torfol, gan gynnwys siopau, tafarnau, meysydd chwarae, digwyddiadau poblogaidd ac ati.

 

Ar hyn o bryd mae pwyslais y Safonau Iaith ar gael y Gymraeg i’w gweld ar arwyddion ac ati, ac mae hyn yn cyfrannu at greu tirwedd Gymraeg.  Mae angen yn awr ein bod yn mynd y cam nesaf, a bydd hyn yn golygu annog rhai mewn swyddi mewn siopau, caffis ac ati i ddefnyddio’r Gymraeg gyntaf. 

 

Bydd hyn yn golygu annog cyfarch yn y Gymraeg yn y lle cyntaf, ac annog defnyddio’r iaith ymhellach wedyn.  Mae hyn yn golygu bod angen datblygu rhaglenni hyfforddiant iaith i’w cyflwyno i fyfyrwyr colegau addysg bellach a gweithwyr yn y maes cyhoeddus.

 

Rhan arall o’r rhaglen yma fydd codi hyder siaradwyr Cymraeg.  Gall hyn ddigwydd trwy hysbysebu cyhoeddus (yn wahanol i’r ymgyrch hysbysebu a alwai ar siaradwyr Cymraeg i gwyno) a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn helaeth.

 

iii.                 Cymathu mewnddyfodiaid

 

Lle mae gwersi Saesneg am ddim wedi bod ar gael i fewnddyfodiaid, ychydig o wersi Cymraeg a fu ar gael am ddim.  Mae angen i’r Llywodraeth fuddsoddi’n helaeth i sicrhau bod modd cynnig gwersi Cymraeg am ddim i fewnddyfodiaid, yn ogystal â chynorthwyo cynghorau lleol i ddarparu rhaglenni cymathu cymdeithasol trylwyr, a fydd yn cynnig ymwybyddiaeth o hanes a diwylliant.

 

Mae tystiolaeth bod mewnddyfodiaid mewn sawl rhan o Gymraeg wedi ymserchu yn y Gymraeg, ac mae llawer o rai y tu hwnt i’r ffin, megis Steve Backshall, Adrian Chiles a Benjamin Zephaniah wedi dangos parch at y Gymraeg er nad ydynt yn byw yma.

 

3.       Dylanwad Brexit

 

i.                     Ieithoedd lleiafrifol

Mae ymadawiad y DG a’r UE yn cael effaith ar y cyd destun ieithoedd lleiafrifol. O fewn yr UE ‘roedd rhywfaint o gydnabyddiaeth i  ieithoedd llai eu defnydd  megis  Basgeg a Chatalaneg. Mae nifer o leiafrifoedd ieithyddol eraill yn Ewrop megis siaradwyr Llydaweg, Friuli a Sorbeg. Dylid bwydo gwybodaeth am y lleiafrifoedd hyn i’r cwricwlwm newydd i ddangos nad rhywbeth rhyfedd yw ymboeni am iaith a diwylliant. Fel mae Dr Simon Brooks yn ei nodi, mae lleiafrifoedd iaith yn rhywbeth na fedr y gyfundrefn Angloffon ei werthfawrogi’n hawdd. Serch hynny, nid yw Llywodraeth Cymru hyd yn hyn, wedi deall arwyddocâd y Gymraeg i’n hunaniaeth, yr hunaniaeth sydd yn cyfiawnhau ei fodolaeth.  Mae angen pwyso am ddealltwriaeth o leiafrifoedd ieithyddol yn Ewrop.

 

ii.                   twristiaeth

Sgil effaith Brexit, sydd wedi ei dwysáu  gan y pandemig, yw tuedd pobl o Loegr i ymweld â Chymru ar wyliau, hoffi’r ardaloedd , sylwi ar brisiau tai sydd yn is nag yn Lloegr, a naill ai prynu ail gartref neu ymsefydlu yma. Yn ddiweddar, prynwyd tua 50% o dai ym Meirionnydd gan bobl o’r tu hwnt i’r sir.

 

Mae hyn yn dwysau’r pwysau ar gymunedau Cymraeg o gofio bod degawdau o allfudo gan Gymry Cymraeg o ardaloedd Cymreiciaf Cymru gan nad oedd gwaith ar eu cyfer yn lleol. Cyn ymadawiad y DG o’r UE byddai nifer o ymwelwyr o Loegr wedi dewis mynd ar wyliau i wledydd Ewrop a rhai yn prynu tai yno.

 

Felly, mae angen Cymreigio’r diwydiant twristiaeth sydd yn beiriant Seisnigo Cymru ar hyn o bryd. Cofier geiriau Yves Champetier, Cyfarwyddwr cynllun LEADER yn Ewrop 1992- 2001 ac yna yn gyfarwyddwr datblygiadau busnes yn Siambr Fasnach a Diwydiant ym Montpellier, Ffrainc:-

“Yr hyn sydd yn wahanol amdanom sydd yn ein gwneud yn ddiddorol a’r hyn sydd yn ddiddorol amdanom sydd yn ein gwneud yn hawdd ein marchnata” 

 

Yr hyn sydd yn wahanol amdanom yw ein hiaith a’n hanes. Dyma’r elfennau i’w pwysleisio mewn diwydiant twristiaeth iach. Byddai hyn yn creu argraff glir ar ymwelwyr o’r hyn sydd yn gwneud Cymru yn wlad wahanol os nad ar wahân i Loegr. Gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar Croeso Cymru i bwysleisio ein hiaith, diwylliant a’n hanes fel elfennau arbennig o hunaniaeth Cymru.

 

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddwysau y prosiectau sydd wedi cychwyn mewn ambell sir sydd yn egluro pwysigrwydd y Gymraeg i fewnfudwyr. Mae dosbarthu taflenni a rhoi gwybodaeth ar wefan y cyngor yn gam cyntaf addawol.  Ond mae angen dilyniant strwythuredig a chydlynus. Mae dadansoddiad Dr Simon Brooks yn nodi’r ardaloedd effeithiwyd fwyaf gan ail gartrefi, yn arbennig yn siroedd y gogledd orllewin. Yn yr ardaloedd hyn, ac ardaloedd tebyg ymhellach i’r de, gwelwn brif effaith y mewnfudo ar ein cymunedau Cymreiciaf. Ar frys, mae angen ail sefydlu Canolfannau Iaith yn yr ardaloedd hyn i gymathu plant oed ysgol ac annog y rhieni i’w mynychu. Bu’r Athrawon Bro o gymorth sylweddol yn  hybu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith disgyblion ysgol ac mae angen trefniant tebyg eto.

 

Yn olaf:

 

Rydym yn dal yn amheus a yw cael is-adran i’r Gymraeg fel rhan o’r gwasanaeth addysg yn rhoi statws digonol i’r rhai yn y Llywodraeth sydd am arwain polisïau sy’n ymwneud â chynllunio adferiad y Gymraeg.

 

Mae newid gweinidog y Gymraeg yn gyson, a rhoi i’r gweinidog hwnnw ddyletswyddau eraill, yn golygu ein bod yn gweld dechrau newydd a phwyslais gwahanol ar bolisïau iaith bob blwyddyn neu ddwy.

 

Mae’r cynllun i gael arbenigwyr i gynorthwyo’r is-adran wedi ei ohirio, ac yn sgil Covid-19 a Brexit mae’r cyllid sydd ar gael i’r is-adran wedi ei gwtogi, a’i gwaith wedi ei lesteirio.

 

Ein barn ni yw bod angen Awdurdod Iaith lled braich a fydd yn gallu gweithredu annibynnol i gefnogi’r meysydd uchod, a gwneud hynny gyda pharhad a datblygiad dirwystr. O fethu hynny, mae angen rhoi statws uchel yn y Llywodraeth i is-adran y Gymraeg, a rhoi cyllid digonol iddi fel y gall weithredu’n effeithiol ar draws meysydd y mae’r Llywodraeth yn gyfrifol amdanynt.

 

 

Dyfodol i’r Iaith

 

Medi 2021